Trwy'r Tonnau

Author: Manon Steffan Ros.

Series: Cyfres yr Onnen.

In this sequel to Trwy'r Darlun, Cledwyn, Siân and Gili Dŵ have yet another adventure. In this novel, they unravel more mysteries about their parents, and we also meet new characters. The winner of the Tir Na-nog Award 2010.

 

Awdur: Manon Steffan Ros.

Cyfres: Cyfres yr Onnen.

Yn y dilyniant hwn i'r nofel Trwy'r Darlun, mae Cledwyn, Siân a Gili Dŵ'n cael antur arall. Mae Trwy'r Tonnau yn datrys mwy o ddirgelion am eu rhieni a chawn gwrdd â chymeriadau newydd sbon. Enillydd Gwobr Tir Na-nog 2010.

Dyma’r ail mewn cyfres o wyth nofel yng Nghyfres yr Onnen gan yr awdures Manon Steffan Ros.


Mae hi’n nofel llawn antur wrth i Cledwyn a Siân fynd ar antur arall i wlad hudol Crug, sy’n llawn creaduriaid gwahanol – rhai yn ffrindiau a rhai yn beryglus! Ond er y cefndir anarferol, mae yma lawer i’w ddysgu am ffrindiau, cyd-fyw â phobl wahanol a hiraeth am rieni.

Mae’r ysgrifennu yma yn fywiog a byrlymus, a’r awdures i’w chanmol yn fawr am lunio nofel mor ddyfeisgar a chyffrous! Efallai y byddai penodau byrrach yn gwneud y darllen yn haws ac yn fwy dramatig, ond mae yma nofel afaelgar iawn fydd yn apelio at fechgyn a merched fel ei gilydd.

Gwenllïan Dafydd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£5.95 - £0.00



Code(s)Rhifnod: 9781847710758
9781847710758

You may also like .....Falle hoffech chi .....