Yr Hwntws, Y Tribanwr

 

Tracks -

01. Ym Mhontypridd mae 'Nghariad

02. Aradwr a'i Ychen

03. Bro Morgannwg

04. Cymeriadau / Alaw Triban

05. Y Mwlsyn

06. Y Folantein / Y Bibddawns Gymreig

07. Hannar Cnap

08. Tribannau Priodasau / Y Lili

09. Ffarwel i Dai'r Cantwr

10. Adar Di-Ofal / Alaw Pontypridd

11. Tribannau Ifan Bifan

12. Diawledig a Nefolaidd / Pibddawns Gwŷr Wrecsam

13. Y Coliar.

 

 

 

Dyma albym diweddaraf YR HWNTWS, y grŵp gwerin sy’n adnabyddus am ganu caneuon traddodiadol De Cymru gan atgynhyrchu’r hen dafodiaith hardd ‘Gwenhwyseg’ (Gwentian).

Mae’r cerddor Gregg Lynn o’r Hwntws wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ymchwilio hen lawysgrifau a llyfrau caneuon yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan gasglu enghreifftiau unigryw’r ffurf farddonol ‘Tribannau Morgannwg’ – ffrwyth llafur y gwaith ymchwil yma gan Gregg yw’r casgliad newydd ‘Y Tribanwr’ sy’n cynnwys 70 o dribannau traddodiadol wedi eu trefnu gan Nia Lynn a Bernie Killbride.

Ceir nodiadau cynhwysfawr ar gefndir y triban yn y llyfryn ac ymhlith y nodiadau mae disgrifiad Tegwyn Jones o’r triban; ‘Mesur gwerinol yw’r triban, symyl ei ergyd a hawdd ei gofio. Ei nod angen yw ystwythder bywiog ac ergyd yn ei gynffon, ac os ceir tinc y gynghanedd gyda hynny, gorau oll’.

Traciau -

01. Ym Mhontypridd mae 'Nghariad

02. Aradwr a'i Ychen

03. Bro Morgannwg

04. Cymeriadau / Alaw Triban

05. Y Mwlsyn

06. Y Folantein / Y Bibddawns Gymreig

07. Hannar Cnap

08. Tribannau Priodasau / Y Lili

09. Ffarwel i Dai'r Cantwr

10. Adar Di-Ofal / Alaw Pontypridd

11. Tribannau Ifan Bifan

12. Diawledig a Nefolaidd / Pibddawns Gwŷr Wrecsam

13. Y Coliar.

 

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886279725
SAIN SCD2797

You may also like .....Falle hoffech chi .....