Wel, am Wal! - Waliau'r Byd

Author: Haf Llewelyn.

Series: Cyfres Lobsgows.

Wel, am wal! takes a look at all kinds of walls, from the Great Wall of China to Hadrian's Wall and the walls of Palestine. The book also gives attention to the craft of building walls and the sport of wall-climbing.

 

Awdur: Haf Llewelyn.

Cyfres: Cyfres Lobsgows.

Mae Wel, am wal! yn edrych ar bob math o waliau, o Wal Fawr China i Wal Hadrian a waliau Palesteina. Mae'r llyfr hefyd yn rhoi sylw i'r grefft o adeiladu waliau ac i'r gamp o ddringo waliau. Ar bob taenlen ceir darn ffeithiol a darn ffuglennol, ynghyd â chwestiynau darllen a deall a chwestiynau i annog y dysgwyr i ymateb a dadansoddi'r testun.

 

Un o blith cyfres o 8 llyfr thema ar gyfer plant 7-11 oed sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd fydd yn codi gwên ac yn codi awydd i ddysgu mwy.


* Yn rhoi sylw i’r ystod o bynciau fydd yn apelio at blant 7-11 oed, gyda’r pwyslais ar bynciau anghyffredin;


* Y darnau ffuglen yn cwmpasu amrywiaeth eang o genres, e.e. cerddi, chwedlau, dyddiadur, llythyron, straeon, rysáit, erthyglau a sgript;


* Y deunydd wedi’i raddoli i fod yn addas ar gyfer dwy haen o ddysgwyr, sef dysgwyr sylfaenol/canolig, a dysgwyr MATh (mwy abl a thalentog).

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781845216955
9781845216955

You may also like .....Falle hoffech chi .....