Ennyd

Author: Luned Aaron, John Emyr.

Created by artist Luned Aaron and her father, author John Emyr, this father and daughter compilation celebrates first experiences, family customs and treasured moments shared by parents and grandparents with their children and grandchildren. A sensitive combination of poems and images.

 

 

Awdur: Luned Aaron, John Emyr.Lluniwyd y gyfrol hon ar y cyd rhwng yr arlunydd Luned Aaron a'i thad, y llenor John Emyr. Munudau dros dro a ddethlir yma: profiadau cyntaf, defodau teuluol a'r momentau gwerthfawr hynny a rannwn gyda'n plant a'n hwyrion. Mwynhewch y cyfuniad sensitif o gerddi a darluniau.

 

John Emyr
Llenor a golygydd. Mae Y Bae a Cherddi Eraill, Gwasg Gomer, ymhlith ei gyfrolau. Bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Môn, a chipiodd wobrau’n ogystal yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwasanaethodd fel Golygydd Cofnod y Trafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Luned Aaron
Gwelir ei gwaith mewn amryw o orielau a deillia nifer o'r lluniau yn Ennyd o sioe unigol a gafodd yn Safle Celf Canolfan Gelfyddydau Galeri, Caernarfon. Luned Aaron a luniodd y gyfrol boblogaidd i blant ABC Byd Natur, Gwasg Carreg Gwalch. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr Huw a'u merched, Eos ac Olwen.

 

£7.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845275976
9781845275976

You may also like .....Falle hoffech chi .....