Ciwb, Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?

 

‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’ (Do you think it’s all over?) combines the talents of Ciwb (Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian and Carwyn Williams) and 9 of the most prominent singers on the Welsh music scene today. Together they have produced an album of new arrangements of 10 songs from the depth of Sain’s catalogue of tracks, each one showcasing individual musical talents and style.  

Having been very productive during lockdown, arranging new music and releasing a single with Malan (a new version of the classic Edward H Dafis song, ‘Smo Fi Ishe Mynd’), Ciwb worked on the idea of releasing a whole album of new arrangements and working with fellow performers on the scene. The album consists of songs from the 60s right through to the 90s and features songs originally sung by Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jones, Maffia Mr Huws, Tecwyn Ifan, Bando, Sobin a’r Smaeliaid, Hanner Pei, Siân James and Meic Stevens. 

The finished product is a tribute to the ever popular appeal of some of these truly great songs from decades gone by.

 

Tracks -

01. Ciwb, ‘Nos Ddu’ (artist gwreiddiol: Heather Jones) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjWyO_jjEP10OPUM?e=PkGhyj

02. Mared Williams, ‘Gwawr Tequila’ (artist gwreiddiol: Bando) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjLQpxdLFgHHdnxm?e=o1ChCH

03. Alys Williams, ‘Methu Dal y Pwysa’ (artist gwreiddiol: Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjQVhpgIcbwWGV2z?e=VM69kB

04. Iwan Fôn, ‘Ofergoelion’ (artist gwreiddiol: Tecwyn Ifan) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjl66LYvPx63oxFB?e=YzFrR8

05. Osian Huw Williams, ‘Dagrau o Waed’ (artist gwreiddiol: Sobin a’r Smaeliaid) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjHxrJEeoRNW8kIV?e=tm3VB4

06. Heledd Watkins, ‘Rhydd’ (artist gwreiddiol: Hanner Pei) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjPllZ6IoMKaqJCK?e=za7KO3

07. Joseff Owen, 'Da Ni'm yn Rhan' (artist gwreiddiol: Maffia Mr Huws) 

08. Lily Beau, 'Pan Ddo'i Adre'n Ol' (artist gwreiddiol: Sian James)

09. Dafydd Owain, 'Ble'r Aeth yr Haul?' (artist gwreiddiol: Huw Jones)

10. Rhys Gwynfor, 'Mynd i Ffwrdd Fel Hyn' (artist gwreiddiol: Meic Stevens).

 

 

 

Mae ‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’ yn ffrwyth cyd-weithio rhwng Ciwb (Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams) a 9 o gantorion amlycaf y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyma albym sy’n rhoi gwedd newydd ar 10 o ganeuon gwych o grombil catalog label Sain ac albym sydd hefyd yn ddathliad o gyfraniad yr artistiaid gwreiddiol a’r cyfansoddwyr i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.  

Wedi cychwyn recordio a threfnu fersiynau newydd o ganeuon poblogaidd dros y cyfnodau clo cyhoeddodd Ciwb a Malan eu fersiwn newydd nhw o ‘Smo Fi Ishe Mynd’ (Edward H Dafis). Arweiniodd hyn at y syniad o greu albym yn llawn o drefniannau newydd o ganeuon apelgar a ryddhawyd gan Sain ar hyd y degawdau – rhai o glasuron y 70au fel ‘Nos Ddu’ (Heather Jones), ‘Methu Dal y Pwysa’ (Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr) a ‘Ble’r Aeth yr Haul?’ (Huw Jones); ambell anthem bwerus o’r 80au fel ‘Da ni’m yn rhan’ (Maffia Mr Huws), yr hwyliog ‘Ofergoelion’ (Tecwyn Ifan) a’r ffynci ‘Gwawr Tequila’ (Bando); ac o’r 90au, ‘Dagrau o Waed’ (Sobin a’r Smaeliaid), ‘Rhydd’ (Hanner Pei) a fersiwn wahanol o’r ffefryn gwerinol gan Siân James, ‘Pan ddo’i adre’n ôl’. I orffen yr albym Rhys Gwynfor sy’n perfformio fersiwn newydd o gân Meic Stevens ‘Mynd i ffwrdd fel hyn’, y gân sy’n cynnwys teitl yr albym yn ei chytgan cofiadwy.

Dyma albym sy’n destament i apêl parhaol rhai o ganeuon gwych y gorffennol gyda phob trac yn arddangos arddull unigryw yr amrywiol artistiaid a’r cyfan wedi ei glymu ynghyd gan ddoniau cerddorol Ciwb.

 

Traciau -

01. Ciwb, ‘Nos Ddu’ (artist gwreiddiol: Heather Jones) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjWyO_jjEP10OPUM?e=PkGhyj

02. Mared Williams, ‘Gwawr Tequila’ (artist gwreiddiol: Bando) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjLQpxdLFgHHdnxm?e=o1ChCH

03. Alys Williams, ‘Methu Dal y Pwysa’ (artist gwreiddiol: Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjQVhpgIcbwWGV2z?e=VM69kB

04. Iwan Fôn, ‘Ofergoelion’ (artist gwreiddiol: Tecwyn Ifan) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjl66LYvPx63oxFB?e=YzFrR8

05. Osian Huw Williams, ‘Dagrau o Waed’ (artist gwreiddiol: Sobin a’r Smaeliaid) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjHxrJEeoRNW8kIV?e=tm3VB4

06. Heledd Watkins, ‘Rhydd’ (artist gwreiddiol: Hanner Pei) https://1drv.ms/u/s!Al3oI_BydBHgyjPllZ6IoMKaqJCK?e=za7KO3

07. Joseff Owen, 'Da Ni'm yn Rhan' (artist gwreiddiol: Maffia Mr Huws) 

08. Lily Beau, 'Pan Ddo'i Adre'n Ol' (artist gwreiddiol: Sian James)

09. Dafydd Owain, 'Ble'r Aeth yr Haul?' (artist gwreiddiol: Huw Jones)

10. Rhys Gwynfor, 'Mynd i Ffwrdd Fel Hyn' (artist gwreiddiol: Meic Stevens).

 

 

£12.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886283524
SAIN SCD2835

You may also like .....Falle hoffech chi .....