Adolygiad Cwsmeriaid / Customer Reviews

Yn seiliedig ar 1 review / Based on 1 review Ysgrifennwch adolygiad am y cynnyrch yma / Write a review

Bwncath - II


Tracks -

01. Gwiberod

02. Clywed dy Lais

03. Dos yn dy Flaen

04. Hollti'r Maen

05. Fel Hyn, 'da ni Fod

06. Tonnau

07. Haws i'w Ddweud

08. Addewidion

09. Aberdaron

10. Sgenai'm Mynadd.

 


  


Ers rhyddhau'r albwm gyntaf nôl yn 2017, mae Bwncath wedi dod yn un o'r bandiau prysuraf yng Nghymru.

Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, a’i pherfformio fel band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Wedi poblogrwydd a llwyddiant eu halbym cyntaf, dyma'r ail albym eto ar label Rasal. Recordiwyd yr albwm yma yn Stiwdio Sain gan aelodau Bwncath sef Elidyr Glyn (prif lais a gitâr acwstig), Robin Llwyd (gitâr drydan a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) a Twm Ellis (drymiau a llais cefndir).

Bellach, mae’r 4 aelod yn gigio’n rheolaidd gyda’i gilydd ers dros flwyddyn. Meddai’r band: “Mae hi wedi bod yn braf iawn recordio’r albwm fel pedwarawd am y tro cyntaf. Mae’n sicr yn teimlo fel cyfanwaith rhwng y pedwar ohonom ni ac yn driw i’n perfformiadau byw.”

“Rydym yn edrych ymlaen i bawb gael clywed y caneuon newydd, ac yn arbennig y gwesteion gwych sydd wedi cyfoethogi rhai o’r traciau.”

Cynhyrchwyd ‘II’ gan Robin Llwyd a’r gwaith celf gan Elidyr Glyn.

Traciau -

01. Gwiberod

02. Clywed dy Lais

03. Dos yn dy Flaen

04. Hollti'r Maen

05. Fel Hyn, 'da ni Fod

06. Tonnau

07. Haws i'w Ddweud

08. Addewidion

09. Aberdaron

10. Sgenai'm Mynadd. 

 


£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162100445
Rasal CD044 / 5055162100445

You may also like .....Falle hoffech chi .....