Arthur - Breuddwydiwr a Gweithredwr

Editor: Eryl Owen.

Arthur was impossible to be labelled; he lived by his actions, not theories. Through the recollections of his friends and Arthur's own words, we gain a warm portrait of the man. He was a familiar figure throughout Wales, at eisteddfodau and rallies, festivals and rugby games, with many gathering around him for a chat, a song and a joke.

 

Golygwyd gan: Eryl Owen.

Fedrwch chi ddim rhoi label ar Arthur. Nid byw y tu ôl i ddamcaniaethau roedd o, ond byw drwy weithredoedd. Trwy atgofion cyfeillion a geiriau Arthur ei hun, cawn ddarlun cynnes ohono. Roedd yn gymeriad adnabyddus ledled Cymru mewn Eisteddfodau, ralïau, gwyliau a gêmau rygbi a byddai criw'n hel o'i amgylch am sgwrs a chân a thynnu coes.

 

Cymro cadarn a brogarwr balch, cymeriad ffraeth a chwmnïwr diddan ond hefyd dyn teulu a chyfaill triw i laweroedd – dyna i chi Arthur. Wedi’i wreiddio yng Nghymreictod Penmachno, bu’n brotestiwr brwd yn ddyn ifanc a gwisgodd grys ei wlad yn ddi-gyfaddawd trwy gydol ei oes. Breuddwydiai am Gymru fyddai’n falch ohoni’i a bu’n byw i geisio gwireddu’r freuddwyd – wrth sefydlu papur bro Yr Odyn neu Glwb Rygbi Nant Conwy yn ei fro enedigol, yn aelod o gorau, yn golofnydd difyr a dadleuol i’r Cymro a’r Wylan, papur bro ei ardal fabwysiedig yn Eifionydd, yn awdur cyfrolau poblogaidd ac yn fardd aml-gadeiriog.


Roedd yn perthyn i fudiadau'r iaith a dyfodol Cymru, ond welech chi mohono'n geffyl blaen. Mynd ati i roi addysg Gymraeg i blant mewn ffordd oedd yn eu gwneud i glosio at y pwnc a'r iaith wnaeth o; dychwelyd i fyw ym Mhenmachno a chreu cylch o ddigwyddiadau roedd pobl ifanc yn mynd iddynt am eu bod yn mwynhau'u hunain. Un o sefydlwyr papur bro Yr Odyn, ond darllenwyr y fro – nid y fo – oedd yn bwysig. Un o sefydlwyr Clwb Rygbi Nant Conwy a wnaeth gymaint â dim arall i uno cymdeithas ifanc y dyffryn, a hynny gan ddefnyddio'r iaith ar lawr gwlad.

Dyma gyfle i gofio am yr hwyl ac am freuddwydion a gweithredoedd Arthur.

 


£8.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845277482
9781845277482

You may also like .....Falle hoffech chi .....