Twm Sion Bolgi

Author: Julia Donaldson; Welsh Adaptation: Gwynne Williams.

A new edition (191x145 mm size) of a Welsh adaptation of The Highway Rat, especially designed to assist young readers.

'Give me your buns and your biscuits! Give me your chocolate éclairs! For I am the Rat of the highway, and the Rat thief never shares!' Beware of the Highway Rat. He'll steal your food ... and your heart!

 

Awdur: Julia Donaldson; Addasiad Cymraeg: Gwynne Williams.

Argraffiad newydd sydd yn llawer iawn llai na'r maint blaenorol (maint 191x145 mm) o addasiad Cymraeg o The Highway Rat, a ddyluniwyd yn arbennig er mwyn hybu hyder darllenwyr ifanc.

"Rho dy ddwylo i fyny! I fyny! Dim lol! Rhaid imi gael rhywbeth i lenwi fy mol!" Twm Siôn Bolgi 'di lleidr y pen ffordd, fo 'di pen lleidr y llwyn! Mae'n lladrata pob peth mae'n ffansïo ... ac yn bwyta pob peth mae'n ei ddwyn!

 

A welsoch chi lygoden fawr ar gefn ceffyl erioed? Naddo? Na finnau. Ond yn y gyfrol hon, mae Twm Siôn Bolgi, yr ‘hen fwystfil bygythiol a chas’ yn carlamu drwy’r wlad ar ei geffyl ac yn dwyn bwydydd creaduriaid y briffordd. Yr un neges sydd ganddo i bob un o’r creaduriaid bychain y daw ar eu traws: ‘Rho dy ddwylo i fyny! I fyny! Dim lol! / Rhaid imi gael rhywbeth i lenwi fy mol!’ Cawn gwrdd â’r gwningen a’r wiwer, y morgrug a’r pry copyn, ac mae Twm yn dwyn oddi arnynt bob un, nes iddo gyrraedd y chwaden, sydd ychydig bach yn fwy clyfar nag ef ... a chyn iddi hi lanio ar blât gyda’r reis, mae’n hudo Twm i gwrdd â’i chwaer fawr sy’n byw mewn ogof ‘i fyny ar ben ucha’r bryn’. Ac fel pob dyn barus, mae Twm yn cael ei hudo gan addewid o fwyd ac yn ei dilyn. Beth fydd ei hanes ef wedyn, tybed?

Daw’r stori hon o’r un stabal â’r Gryffalo ac mae’r addasiad i’r Gymraeg gan Wasg y Dref Wen yn un campus. Mae’r rhythm a’r odl yn taro deuddeg ac rwy’n arbennig o hoff o’r darlun o’r chwaden fuddugoliaethus ar gefn y ceffyl: ‘Carlamai fel mellten fwr bwt / yn ôl at ei ffrindiau newynog / â’r sachau yn saff wrth ei chwt.’

Fe ellid dadlau bod sawl thema ddyfnach i’r stori hon – goruchafiaeth y ferch, brwydr y bobl bychain yn erbyn y mawrion - ac mae hyn oll yn rhan o glyfrwch Julia Donaldson, yr awdures wreiddiol. Ond fe fydd plant Cymru yn cofio’r gyfrol am ei stori afaelgar, y cymeriadau bach hoffus, y darluniau hyfryd (mewn gair a llun), doniolwch y digwydd a’r dweud, ynghyd â’r tro boddhaus yn y gynffon. Mwynhewch!

Lynne Williams

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781784230272
9781784230272

You may also like .....Falle hoffech chi .....