Mae'r Tonnau'n Tynnu


Welsh Shanties and Sea Songs

Multi-artist album with tracks by some of Wales’ foremost folk performers  - the shanties are an integral part of our musical heritage here in Wales.

Historically, shanties are rare in the Welsh tradition but there are plenty of ballads and many sea songs which date back to the 19th century and earlier. Originally used as work songs on board ships of all shapes and sizes, travelling to all corners of the globe, the shanties soon made their way to be part of the tradition of the land and became fashionable favourites.

As you will hear on this album, the beautiful, sometimes rugged coastline of Wales is enriched with stories and songs of the sea, from the north to the south, and many of the old favourites here sit side by side with newly composed songs in the traditional mode. A deep longing for home, light-hearted misadventures, historical context, stories and legends, excotic far-away place names, sorrow, tragedy and loss – these songs have it all and their ever-popular appeal continue to inspire.

Tracks –

01. Sianti Gymraeg (Gwilym Bowen Rhys)

02. Llongau Caernarfon (Lleucu Gwawr)

03. Fflat Huw Puw (Côr Meibion Carnguwch)

04. Porthdinllaen (Meinir Gwilym/Gwenan Gibbard)

05. Tywydd Mawr (Iwan Huws)

06. Teg Edrych Tuag Adref (Einir Humphreys)

07. Mae'r Gwynt yn Deg (Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Gethin Griffiths)

08. Harbwr San Ffransisco (Côr yr Heli)

09. Cân Pysgotwyr Cei Newydd (Cynefin)

10. Rownd yr Horn (Dewi Morris)

11. Santiana (Lowri Evans)

12. Arfor (Gwyneth Glyn, Twm Morys)

13. Yn Harbwr Corc (Hogia Llanbobman)

14. Baled Gwraig y Morwr (Mair Tomos Ifans)

15. Clychau Cantre'r Gwaelod (Elidyr Glyn).

 

 

Siantis a Chaneuon y Môr

Mae’r siantis yn rhan ganolog o’n traddodiad gwerin cerddorol ni bellach, er mai caneuon gweddol ddiweddar ydi’r mwyafrif ohonynt.

J Glyn Davies, un a fagwyd yn Lerpwl ond a dreuliodd hafau ei blentyndod yng nghartref y teulu ym mhentref Edern ym Mhen Llŷn, fu’n gyfrifol am eu casglu ynghyd a’u poblogeiddio – caneuon oedd rhain a glywodd gan forwyr yng Nghymru ac yn nhafarn y Welsh Harp yn Lerpwl ac yn ystod ei gyfnod yntau ar y môr. Ysgrifennodd eiriau Cymraeg ar eu cyfer ac anfarwolodd y bywyd morwrol Cymreig gan greu rhyw swyn a hudoliaeth arbennig drwy briodas berffaith rhwng gair ac alaw.

Prin yw’r caneuon morwrol traddodiadol, er bod ambell un i’w cael, ond bellach mae caneuon cyfrolau J Glyn Davies, Cerddi Huw Puw a Cerddi Portinllaen, yn greiddiol i’n treftadaeth gerddorol. Caneuon gwaith y morwyr oeddynt wrth gwrs, caneuon i gynorthwyo’r morwyr gyda’r gwaith ar fwrdd y llong a’r canu rhythmig yn aml yn gymorth i gadw amser wrth drampio o amgylch y captan neu wrth halio’r rhaffau neu godi’r angor.

Erbyn hyn maent yn cynrychioli’r hen ffordd o fyw a phwysigrwydd y môr ym mywyd bob dydd trigolion ardal Llŷn yn arbennig. Daw’r alawon yn aml o bob rhan o’r byd, gan adlewyrchu’r teithio helaeth a fu o’r rhan fach hon o Gymru i bellafoedd byd a’r modd y mae’r sianti, yn fwy nag unrhyw fath arall o gân draddodiadol efallai, yn rhyngwladol o ran ei hanes cerddorol.

Ond perthyn y traddodiad morwrol hefyd i Fôn ac Arfon, Meirionnydd, Ceredigion, Sir Benfro a gweddill arfordir Cymru ac mae’r albym yma yn dangos eto fyth boblogrwydd y siantis a’r caneuon môr yng Nghymru heddiw. Mae’r cyfan yn y caneuon hyn – hiraeth, hwyl a throeon trwstan, straeon a chwedlau, cofnodion hanesyddol, colled a thrallod a rhamant y tonnau sy’n tynnu’n barhaus, a’u hapêl yn ysbrydoli caneuon o’r newydd o hyd.

Traciau -

01. Sianti Gymraeg (Gwilym Bowen Rhys)

02. Llongau Caernarfon (Lleucu Gwawr)

03. Fflat Huw Puw (Côr Meibion Carnguwch)

04. Porthdinllaen (Meinir Gwilym/Gwenan Gibbard)

05. Tywydd Mawr (Iwan Huws)

06. Teg Edrych Tuag Adref (Einir Humphreys)

07. Mae'r Gwynt yn Deg (Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Gethin Griffiths)

08. Harbwr San Ffransisco (Côr yr Heli)

09. Cân Pysgotwyr Cei Newydd (Cynefin)

10. Rownd yr Horn (Dewi Morris)

11. Santiana (Lowri Evans)

12. Arfor (Gwyneth Glyn, Twm Morys)

13. Yn Harbwr Corc (Hogia Llanbobman)

14. Baled Gwraig y Morwr (Mair Tomos Ifans)

15. Clychau Cantre'r Gwaelod (Elidyr Glyn).


£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886284927
Sain SCD2849

You may also like .....Falle hoffech chi .....