Patrobas, Lle Awn Ni Nesa'?

Patrobas are Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams and Gruffydd Davies; all four are from the Llŷn Peninsula, North Wales. The band was formed three years ago, following the release of their first EP, ‘Dwyn y Dail’ in 2015, the group have gone from strength to strength.

While continuing to perform regularly in 2016, each member has matured in their own way. Their musical tastes have become more eclectic. Wil listens to contemporary folk – Mumford and Sons. Iestyn’ taste is slightly more traditional. Carwyn plays bass in the band Fleur de Lys and performs with Candelas from time to time. Gruffydd joined the band after the EP was released, having been a member of an orchestra and brass bands, he brings new ideas and musical tastes into the mix. Every ingredient is important!

These songs are varied – some are love songs, some are instrumental tracks, and others convey a more political or humanitarian message. The common ground for these tracks is that they ask some kind of question, challenge a perception or idea, thus creating a crossroads or a choice rather than ending neatly with all the answers. Geiriau Brad (Treacherous Words) offers no answers, but it questions people’s attitudes, and asks them what they are going to do next. There is no “land on the horizon” in Dalianiala (Holdusallah) therefore there is no certainty in the future of its characters. It was this kind of sentiment that gave them the album title. All these developments are very exciting for them, as they look forward to performing the new material up and down the country over the summer months.

Tracks -

01. Creithiau

02. Mi Fydd Hi'n For a

03. Paid Rhoi Fyny

04. Difyrrwch Sieff-Sieffre

05. Castell Aber

06. Geiriau Brad

07. Dormeo

08. Merch y Môr

09. “Power to the People!”

10. Dalianiala.

  

Patrobas ydi Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies, ac mae’r pedwar o (ardal) Ben Llŷn, Gogledd Cymru. Ffurfiwyd y band tair blynedd yn ôl, ac yn dilyn rhyddhau eu EP cyntaf; ‘Dwyn y Dail’ yn 2015, mae’r band wedi mynd o nerth i nerth.

Tra’n parhau i berfformio’n gyson yn 2016, cafodd pawb gyfle i aeddfedu yn ei ffordd ei hunain a’u blas cerddorol wedi mynd yn fwy eclectig. Cerddoriaeth gwerin gyfoes – ‘Mumford and Sons’, sydd at ddant Wil, tra bod Iestyn yn fwy traddodiadol. Mae Carwyn yn fasydd i Fleur de Lys ac yn perfformio’n achlysurol efo Candelas. Ymunodd Gruffydd ar ôl rhyddhau’r EP, bu’n aelod o gerddorfeydd a bandiau pres, ac yn dod a’i flas cerddorol ei hun a syniadau newydd i’r band. Mae pob cynhwysyn yn bwysig!

Mae’r caneuon yma yn amrywiol iawn – rhai’n ganeuon serch, rhai’n draciau offerynnol, eraill yn cyfleu neges fwy gwleidyddol neu ddyneiddiol. Yr hyn sy’n gyffredin ym mhob trac bron yw eu bod nhw’n gofyn rhyw fath o gwestiwn, a herio rhywbeth fel bod yna groesffordd a dewis i’w gael ar y diwedd, yn hytrach na gorffen yn dwt ac yn daclus. Tydi’r gân ‘Geiriau Brad,’ ddim yn cynnig ateb, ond yn cwestiynu agweddau pobl, ac yn gofyn beth mae’n nhw am ei ‘wneud nesaf. Does yna ddim “tir ar y gorwel” yn ‘Dalianiala’, felly does dim sicrwydd beth fydd yn digwydd nesaf. Rhyw naws felly a esgorodd ar deitl yr albwm.

Traciau -

01. Creithiau

02. Mi Fydd Hi'n For a

03. Paid Rhoi Fyny

04. Difyrrwch Sieff-Sieffre

05. Castell Aber

06. Geiriau Brad

07. Dormeo

08. Merch y Môr

09. “Power to the People!”

10. Dalianiala.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162100391
RASAL CD039

You may also like .....Falle hoffech chi .....