Mr Huw, Hud a Llefrith

Produced and recorded on his 8 track by Mr.Huw in the ‘the darkness of Nant Peris’ bone yard’ and ‘Caernarfon’s blood and sex room’, Hud a Llefrith blends dark stories with lively and happy melodies. It’s an excellent follow up to the commendable debut Llond Lle o Hwrs a Lladron, released in 2007.

Once again Mr.Huw deals with every day issues and creates strong images about mortality, the main theme of the album. Despite this Huw said; “Even though mortality plays a big part, I consider Hud a Llefrith to be a positive album. I always write about dark things. My brain sometimes wanders to where it shoudn’t go, or to places where it should!”.

Mr.huw challenges genre and boundaries, combining and arranging music effectively, with great imagination and skilled musical expression. He presents bare electronic beats, sometimes hypnotic, but it is mr.huw’s lyrical and imagery skills that make him a genius. Bethan Elfyn, the BBC Radio 1 presenter, said; “Mr.Huw is a real character - dry humour and a very experienced musician. With his versification and his creative use of mad words, he is the closest thing to an anti-folk scene we have in Wales. Simple songs on first inspection but they hide immense darkness behind the humour - yes he scares me a little and then I’ll laugh nervously - that’s the relationship I have with mr.huw.”

Tracks –

01 - Hunanladdiad

02 - Petha Bach

03 - Ffrind Gora Marw

04 - Ofn Bod Ofn

05 - Y Dyn, Y Chwedl

06 - Mi Nath i Chdi Betha Drwg

07 - Canibals a Rhyw

08 - Esgyrn Glân

09 - Ar Dân

10 - Stori Drist

11 - Nid Menyn yw Popeth Melyn

12 - Hud a Llefrith.

 

 

Wedi’i gynhyrchu a’i recordio ar beiriant 8 trac gan mr huw yn “nhywyllwch iard esgyrn Nant Peris” ac “ystafell waed a rhyw Caernarfon”, mae Hud a Llefrith yn cydweddu storïau tywyll dros felodïau bywiog a hapus.

Mae’r albwm yn ddilyniant arbennig i Llond Lle o Hwrs a Lladron clodwiw a ryddhawyd yn 2007. Unwaith eto mae mr huw yn trin materion pob dydd ac yn creu delweddau cryf am farwoldeb, sef prif thema’r albwm hwn.

Er hyn, dywedodd Huw, “Er bod marwoldeb yn chwarae rhan fawr ar yr albwm dwi'n cysidro Hud a Llefrith i fod yn albwm positif. Dwi wastad wedi bod yn un am ysgrifennu am bethau tywyll. Mae'r ymennydd a’r dychymyg yn crwydro i mewn i lefydd na ddylen nhw weithiau, neu i lefydd y dylen nhw!” Mae mr.huw yn herio genre ac yn gwthio ffiniau gan gyfuno a threfnu seiniau’n effeithiol gyda chryn ddychymyg a mynegiant cerddorol crefftus. Mae’n cyflwyno curiadau electronig, noeth ac weithiau hypnotig. Ond geiriau, storïau a delweddau mr huw a ddaw a’i dalent i’r amlwg.

Dywedodd y cyflwynydd BBC Radio 1, Bethan Elfyn, “Mae Mr Huw yn dipyn o gymeriad - hiwmor sych a cherddor profiadol tu hwnt heb sôn am ei farddoni a'r defnydd creadigol o’r geiriau hollol nuts. Mr Huw di'r peth agosaf sy’ gynnon ni yng Nghymru i’r ‘anti-folk scene’, caneuon syml ar yr olwg gyntaf, ond sy'n cuddio tywyllwch mawr tu ôl i’r hiwmor - ydi mae'n codi ofn arna i ‘chydig bach ac wedyn fydda i’n chwerthin yn nerfus - dyna'r berthynas sy’ gen i â Mr Huw!”

Traciau -

01 - Hunanladdiad

02 - Petha Bach

03 - Ffrind Gora Marw

04 - Ofn Bod Ofn

05 - Y Dyn, Y Chwedl

06 - Mi Nath i Chdi Betha Drwg

07 - Canibals a Rhyw

08 - Esgyrn Glân

09 - Ar Dân

10 - Stori Drist

11 - Nid Menyn yw Popeth Melyn

12 - Hud a Llefrith.

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162140069
COPA CD006

You may also like .....Falle hoffech chi .....