Glain Rhys, Atgof Prin

Originally from Bala but now living in Cardiff, Glain first released her own material on the compilation album ‘Sesiynau Stiwdio Sain’.  Glain has been singing for as long as she can remember, competing at Eisteddfodau, singing with the local Aelwyd and in various groups and choirs in school.

Since bringing the band together for the battle of bands competition at the National Eisteddfod of Wales in 2016 Glain has been experimenting with musical genres, composing and recording material for this album – she explains; ‘I compose my own material and it varies in genre but I suppose it tends to veer towards folk – I’m inspired to write from personal experiences and from events that happen around me day to day.’

Tracks –

01. Ysu Cân

02. Haws ar Hen Aelwyd

03. Y Ferch yn Ninas Dinlle

04. Dim Man Gwyn

05. Marwnad yr Ehedydd

06. Yn Fy Mhen

07. Gêm o Genfigen

08. Rwbeth

09. Yr Hyn Wnes I

10. Eiliad Mewn Cwmni.

 

 

Glain Rhys – y gantores gyfansoddwraig â’r llais hudolus yn cyflwyno ei halbym gyntaf ‘Atgof Prin’.

Yn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain ac yn dilyn llwyddiant y traciau hynny bu Glain a’r band yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Robin Llwyd yn Stiwdio Sain ar yr albym yma ‘Atgof Prin’.

Er bod canu yn rhan o’i bywyd ers cyn cof, daeth Glain i amlygrwydd gyntaf fel cantores-gyfansoddwraig ar ôl cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, lle aeth ati i greu band yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd yn un o berfformwyr ‘Cân i Gymru’ 2018 ar S4C gan berfformio’r gân ‘Ysbrydion’ gan Aled Wyn Hughes. Bu Glain yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd 2018 hefyd gan dderbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘cyflwyno alaw werin unigol 19-25 oed’ a’r ail wobr yn y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd 19 – 25 oed ac yn dilyn ei llwyddiant fe’i gwahoddwyd i fod yn un o’r 6 fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Bu Glain yn cydweithio gyda Robin Llwyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ar yr albym yma ac mae Marged Gwenllian (Y Cledrau) a Carwyn Williams (Patrobas) ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) yn cyfrannu i’r record hefyd. Wrth gyflwyno’r albym esbonia Glain; ‘Mae’r gerddoriaeth dwi’n ei gyfansoddi yn amrywio o ran genre ond tybiwn fod yna dinc gwerinol i’r caneuon yn fwy na dim. Dwi’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu gan fy mhrofiadau personol yn bennaf, yn ogystal â digwyddiadau sydd o fy nghwmpas i o ddydd i ddydd.’ 

Traciau -

01. Ysu Cân

02. Haws ar Hen Aelwyd

03. Y Ferch yn Ninas Dinlle

04. Dim Man Gwyn

05. Marwnad yr Ehedydd

06. Yn Fy Mhen

07. Gêm o Genfigen

08. Rwbeth

09. Yr Hyn Wnes I

10. Eiliad Mewn Cwmni.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162100438
RASAL CD043

You may also like .....Falle hoffech chi .....