Y Mamoth Mawr

Author: David Walliams; Welsh Adaptation: Dewi Wyn Williams.

A Welsh adaptation by Dewi Wyn Williams of The Ice Monster by David Walliams. When Elsi hears that a mamoth from the North Pole is roaming the town's streets, she is determined to find out more!

 

 

Awdur: David Walliams; Addasiad Cymraeg: Dewi Wyn Williams.

Addasiad Cymraeg gan Dewi Wyn Williams o The Ice Monster gan David Walliams. Pan fo Elsi yn clywed bod mamoth o Begwn y Gogledd yn crwydro strydoedd y dre, mae hi'n benderfynol o ddarganfod mwy!

LLUNDAIN 1899 Stori am berthynas plentyn amddifad deng mlwydd oed a mamoth deng mil o flynyddoedd oed ...
Plentyn amddifad sy’n byw ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria yw Elsi. Pan mae’n clywed am y Mamoth Mawr – creadur gwlanog a ddarganfuwyd ym Mhegwn y Gogledd – mae hi’n benderfynol o ddarganfod mwy amdano ...
Yn fuan, daw Elsi wyneb yn wyneb â’r mamoth hynafol, a dyma gychwyn antur fythgofiadwy – o Lundain, ar draws y moroedd mawr, i Begwn y Gogledd.
Mae’r stori gyffrous hon yn dangos bod arwyr i’w cael ym mhob lliw a llun! 

Mae David Walliams yn ddigrifwr, actor a chyflwynydd poblogaidd tu hwnt ac erbyn hyn ymhlith yr awduron mwyaf poblogaidd yn y byd llyfrau pant! Un o awduron mwyaf poblogaidd plant ymhob cwr o'r byd... oes angen mwy o esgus i brynu'r llyfr?!

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781912261772
9781912261772

You may also like .....Falle hoffech chi .....