Y Llinach

Author: Gareth W. Williams.

A novel about protecting a community from an outside threat. A sequel to Y Teyrn, with more of the stirring history of Arthur Goss, the Welsh Inspector Morse.

 

Awdur: Gareth W. Williams.

Nofel gyfoes am warchod cymuned dan fygythiad o'r tu allan. Dilyniant i'r nofel Y Teyrn, yn adrodd mwy o hanes cynhyrfus Arthur Goss, yr Inspector Morse Cymraeg.

Mae Arthur Goss wedi ymddeol o'r heddlu, ond mae cyflafan yr achos olaf y bu'n ymwneud ag e’n dal i daflu cysgodion dros ei fywyd ef a thrigolion eraill tref fach glan môr y Berig. Er gwaethaf ei ymdrechion i gadw draw, caiff Arthur ei dynnu i mewn unwaith eto i gymhlethdodau bywydau'r teulu Brân, gan gynnwys ei gyn-gariad, Branwen, a'r penteulu, Gruffudd ap Brân. Mae bryd gelynion y teulu ar ddial am yr hyn a gollwyd ganddynt, ac maen nhw'n barod i ladd, herwgipio a dinistro pob rhwystr sydd yn eu ffordd er mwyn gwneud hynny. Nod Carwyn a Gerwyn ap Brân yw gwarchod gweledigaeth ac etifeddiaeth eu tad, ac mae angen help Goss arnyn nhw. A fydd ei deimladau at Branwen yn gryfach na'i reddf i gadw ochr cyfraith a trefn? A phwy fydd biau'r fuddugoliaeth eithaf?

Dilyniant i'r nofel Y Teyrn, mwy o hanes Arthur Goss, yr Insepctor Morse Cymraeg.

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781785621024
9781785621024

You may also like .....Falle hoffech chi .....