Trysorau Cudd Caernarfon

Author: Angharad Price.

Come to Caernarfon ... to hear the Canaries on the Oval playing field, to wonder at panoramic views of sea and mountain from atop Twthill and to gain solace at Porth yr Aur quayside. To authoress Anghard Price, Caernarfon is the town of its people - a lively, colourful place, and in these artistic essays you will get a glimpse of locations to treasure.

 

Awdur: Angharad Price.

Dewch am dro i Gaernarfon... i'r Oval i glywed cân y Caneris i ben Twthill i ryfeddu at banorama mynydd a môr i Gei Porth yr Aur, noddfa'r ymylon. Tref ei phobol ydi Caernarfon Angharad Price - tref fywiog, liwgar, herfeiddiol ac yn yr ysgrifau celfydd hyn cewch gip ar y llecynnau bach yno sy'n werth eu trysori.

Mae Angharad Price yn academydd a nofelydd sy’n byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gydag O! Tyn y Gorchudd. Cafodd dwy gyfrol arall o’i gwaith, y nofel Caersaint a Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H. Parry-Williams, eu cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011 a 2014. Yn dilyn llwyddiant ei drama Nansi, enillodd wobr Dramodydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Theatr Cymru y llynedd.

Rai blynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd ddarnau byrion am Gaernarfon i Papur Dre, a datblygiad o’r colofnau hynny yw’r gyfrol hon.

Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, yn arbenigo mewn tirluniau. Mae’n arwain cyrsiau ffotograffiaeth, ac wedi gweithio ledled y byd. Caernarfon yw ei gartref bellach er mai un o Fangor ydyw.

£12.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845276577
9781845276577

You may also like .....Falle hoffech chi .....