'Tawelwch!' Taranodd Miss Tomos

Editor: Myrddin ap Dafydd.

Series: Llyfrau Lloerig.

A varied collection of poetry for children, comprising over 40 amusing poems by 16 poets portraying the fun and troubles of school-days, fully illustrated with amusing cartoons; for 7-11 year old children.

 

Golygydd: Myrddin ap Dafydd.

Cyfres: Llyfrau Lloerig.

Casgliad o farddoniaeth amrywiol i blant, yn cynnwys dros 40 o gerddi doniol gan 16 o feirdd yn portreadu hwyl a helynt dyddiau ysgol, wedi eu darlunio'n llawn â chartŵnau doniol; i blant 7-11 oed.

Ceir 42 o gerddi yn y gyfrol hon a fydd yn apelio at blant, athrawon ac oedolion eraill hefyd gan fod gan bob un ohonom brofiad o dreulio blynyddoedd yn y lle gwallgof-drefnus a elwir yn ysgol. Mae nifer o’r cerddi yn ysgafn ac yn ddigri, gyda chlyfrwch geiriol a chwarae â rhesymeg yn amlwg ynddynt – o ymddygiad athrawon ar hyd y canrifoedd i’r fwydlen oesol wael yn y cantîn.

Ceisir hefyd edrych ar agweddau llai pleserus bywyd ysgol – fel arholiadau, rheolau gwallgof ac annhegwch. Ceir cerddi sy’n edrych ar wahanol fathau o fwlian – o fwlian corfforol ymhlith plant ar fuarth yr ysgol i’r bwlian seicolegol a weinyddir yn aml gan athrawon o fwlis yn y dosbarth.

Adlewyrchir bwrlwm y syniadau yn y gyfrol gyda lluniau bywiog Siôn Morris sy’n cyd�fynd â naws pob cerdd. Yn ddi-os, bydd defnydd helaeth o’r cerddi yma yn y dosbarth a’r eisteddfod – heb sôn am y cyngerdd ysgol bondigrybwyll!

Mari Rhian Owen

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.  

 

£3.75 -



Code(s)Rhifnod: 9780863815683
9780863815683

You may also like .....Falle hoffech chi .....