Prydau Pedwar Tymor / Food for Four Seasons

Author: Gareth Richards.

A bilingual recipe book for the whole year by the popular chef from Lampeter, Gareth Richards.

 

Maybe some of you have experienced the same enjoyment as me – spending an evening watching Gareth Richards giving a cookery demonstration at his home, and then tasting the delicious food. Having a book like this, which outlines how to create meals for all four seasons, is a treasure on the bookshelf. The photographs are highly appealing, and I also like the fact that Welsh and English recipes appear side by side. This book also features ‘tips’ on the corners of many pages, and these are very useful. The ‘Store Cupboard Secrets’ section makes this an unusual cookery book. It makes interesting reading and actually makes you realise what you ought to keep in your own larder to ensure success in the kitchen. Using seasonal fresh food also makes us appreciate that all seasons offer a great variety. In the introduction to the seasons Gareth talks about a ‘time for everything and everything in its time’, which rings true as we are led through the seasons of delicious food and creative meals.

This isn't only a cookery book; it's a volume which outlines the important foods for special and traditional events such as Valentine’s Day and Easter. There is a cross-section of Welsh traditional foods and new introductions to Welsh kitchens, e.g. Mam-gu’s nice rice pudding and chocolate salami or snowball zucotto! Again, I return to the sumptuous photography, not only of the chef during the various seasons, but also of the finished dishes and the crockery used – they will all inspire us whilst preparing our meals at home. This is definitely a book to encourage and inspire cooks of all abilities – and will also make a delightful gift.

Tegwen Morris

A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

 

Awdur: Gareth Richards.

Llyfr ryseitiau ar gyfer y flwyddyn gron gan y cogydd poblogaidd o Lanbed, Gareth Richards.

 

Efallai fod rhai ohonoch wedi cael yr un mwynhad â minnau, sef noson yng nghwmni Gareth Richards yn ei gartref wrth iddo roi arddangosfa goginio. A rhan orau'r noson, wrth gwrs – criw hwyliog ohonom yn cael blasu'r danteithion. Mae cael cyfrol fel hon, sy’n amlinellu sut i greu rhai o’r prydau ar gyfer pob tymor o’r flwyddyn, yn drysor ar y silff lyfrau. Mae’r lluniau'n apelio'n fawr ac rwyf hefyd yn hoffi'r ffaith fod y ryseitiau yn Gymraeg a Saesneg ar y dudalen. Un agwedd arall sydd ychydig yn wahanol yw'r 'tipiau’ sydd i'w cael yng nghornel ambell dudalen. Mae tudalennau cyfrinachau'r cwpwrdd cynhwysion hefyd yn ddarllen difyr iawn ac yn gwneud i rywun ystyried beth a ddylai fod yn cuddio yng nghypyrddau ein ceginau er mwyn sicrhau llwyddiant wrth goginio.

Mae defnyddio bwydydd ffres, tymhorol hefyd yn gwneud i ni werthfawrogi'r gwahanol dymhorau. Yn y cyflwyniad, wrth iddo gyfeirio at dymhorau'r flwyddyn, mae Gareth yn sôn am ‘amser i bopeth a phopeth yn ei amser’, gwireb berthnasol iawn wrth ystyried y detholiad addas o fwydydd o fewn y cloriau yma.

Nid llyfr coginio yn unig sydd yma, ond llyfr sy’n amlinellu pwysigrwydd bwyd wrth ddathlu digwyddiadau pwysig, megis Dydd Santes Dwynwen a’r Pasg. Ceir yma ddetholiad o fwydydd traddodiadol a newydd – mae yma bwdin reis neis Mam-gu a salami siocled a zucotto pelen eira! Ac mae'r lluniau'n odidog. Cawn rai o’r cogydd wrth ei waith a rhai o'r bwydydd bendigedig, gan gynnwys llestri hardd, a ffotograffau o'r prydau gorffenedig wedi'u gweini, a'r cyfan yn ein hysbrydoli. Yn sicr, dyma lyfr a fydd yn eich annog i fynd i'r gegin a mynd ati i goginio. Mae hefyd yn anrheg gwerth chweil.

Tegwen Morris

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781848518728
9781848518728

You may also like .....Falle hoffech chi .....