Lowri Evans, Dydd a Nos

One comes to know a good voice like an old friend. A voice so distinct and special, that sings as easy as one breathes. The ear embraces them and notes dance like never before. Lowri Evans’ voice is like part of the family here in Wales, and this bilingual album, Dydd a Nos (Rasal), meaning day and night, will certainly extend that family beyond the border.

The album title conveys the range of emotions and styles used by Lowri; from jazz, pop, country, folk to Americana. Dydd a Nos is her fourth album, and her experience and musical maturity shines through.

After performing non stop at festivals such as The Green Man Festival, Wychwood Festival and Acoustic Music of Britain; supporting names such as Cara Dillon and Martin Simpson; coming second in 2008’s Cân I Gymru competition and managing to work 9-5, the album title also conveys Lowri’s busy life style!

Here we have a delicate variety of love songs, as well as songs that offer words of wisdom, such as ‘Rhywbeth Gwell na Hyn’ (Better Than This). ‘Torri Syched’ deals with the challenges facing musicians when performing in noisy pubs. The sound of the pedal steel guitar in ‘How Do You Do’ gives us a taste of Hawaii and ‘Pob Siawns’ (Every Chance), which reached the final 8 in 2010’s Cân I Gymru competition, encourages the listener to make the most of every opportunity that life has to offer. Why not let ‘merch y myny’, the girl from the mountain charm you with here voice, lead you from sorrow to joy, Day and Night.

Tracks –

1: Dydd a Nos

2: Rhywbeth gwell na hyn

3: Don't light a fire

4: Torri syched

5: How do you do

6: The long song

7: Pob Siawns

8: Paid

9: The only Woman

10: Aros am y trên

 

 

Daw rhywun i adnabod llais da fel rhyw hen ffrind. Llais arbennig, unigryw, sy’n canu mor hawdd ag anadlu. Mae’r glust yn eu cofleidio, a nodau’n dawnsio o’r newydd. Mae llais Lowri Evans fel aelod o’r teulu yma i ni yng Nghymru, a bydd  yr albwm ddwyieithog yma, Dydd a Nos (Rasal) yn sicr o ymestyn y teulu hwnnw y tu hwnt i’r ffin.

Mae teitl yr albwm yn cyfleu’r ystod eang o deimladau ac arddulliau y mae Lowri’n eu trin; o’r jazz, pop, canu gwlad, y canu gwerin cynhenid i’r Americana. Dydd a Nos yw ei phedwerydd albwm, ac mae ei phrofiad a’i haeddfedrwydd cerddorol yn amlwg. Wedi perfformio’n ddiwyd mewn gwyliau megis Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Wychwood ac Acoustic Music of Britain, cefnogi enwau megis Cara Dillon a Martin Simpson, dod yn ail yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2008 a gweithio o 9-5, mae teitl yr albwm hefyd yn cyfleu’r prysurdeb hwn!

Ceir yma gasgliad tyner o bob mathau o ganeuon serch, tra bo caneuon megis ‘Rhywbeth Gwell na Hyn’ yn cynnig geiriau o gysur bod edrych ymlaen yn well nag edrych yn ôl. Cawn negeseuon mwy heriol yn ‘Torri Syched’ am y sialens sy’n wynebu cerddorion o berfformio mewn tafarndai swnllyd. Mae sŵn y bedal ddur yn rhoi blas o Hawaii i ni yn ‘How do you do’ ac mae ‘Pob Siawns’, a glywyd eisoes yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2010, yn ein hannog i fachu ar bob cyfle a gawn. Gadewch i “ferch y myny`” eich cyfareddu gyda’i llais, o’r llon i’r lleddf, Ddydd a Nos.

Traciau –

1: Dydd a Nos

2: Rhywbeth gwell na hyn

3: Don't light a fire

4: Torri syched

5: How do you do

6: The long song

7: Pob Siawns

8: Paid

9: The only Woman

10: Aros am y trên

 

£4.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5055162100346
RASAL CD034

You may also like .....Falle hoffech chi .....