Gwlad o Gan

Highlights of the ‘Gwlad o Gân’ concert from Venue Cymru, Llandudno featuring Wales’ premier country artists.

Tracks –

01 - Goleuadau Sir Fôn (Broc Môr)

02 - Un llwybr (Broc Môr)

03 - Cwrdd â thi (Brenda Edwards)

04 - Y ddawns olaf (Brenda Edwards)

05 - Dwylo'n Nhad (Iona ac Andy)

06 - Llwybrau breuddwydion (Iona ac Andy)

07 - Ffyla (Iona ac Andy)

08 - Paradwys (Iona ac Andy)

09 - Neith digon ddim digoni (Alistair James)

10 - Mae geneth fach yng Nghymru (Wil Tân)

11 - Bugeilio'r gwenith gwyn (Wil Tân)

12 - Giatia Graceland (John ac Alun)

13 - Rwy'n cofio'r dydd (John ac Alun)

14 - Dos f'anwylyd (John ac Alun)

15 - Dy golli di (John ac Alun)

16 - Dyddiau difyr (John ac Alun)

17 - Chwarelwr (John ac Alun).

 

 

Mae noson Gwlad o Gân yn cael ei threfnu yn flynyddol ers un mlynedd ar ddeg gan gwmni recordio SAIN yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno. Bellach mae’r theatr wedi’i haddasu ac yn cael ei hadnabod fel Venue Cymru. Mae Cyngerdd Gwlad o Gân yn denu cannoedd o Gymry Cymraeg a Di-Gymraeg bob blwyddyn, a nifer ohonynt yn teithio o dros y ffin. M

ae hufen y byd canu gwlad wedi rhannu llwyfan y theatr hon yn y gorffennol, a doedd y cyngerdd hwn ddim yn eithriad. Rhai o’r ffefrynnau ydi John ac Alun o Ben Llyn, sydd wedi perfformio ers y dechrau bron. Felly hefyd y gwr a gwraig o Chwilog, Iona ac Andy. Mae Brenda Edwards wedi bod yn canu ers yn ifanc iawn, ac mae ei chefnogwyr yn ei dilyn i bob man. Dau o frodyr o Fôn ydi Dafydd ac Alun, sy’n cael eu hadnabod bellach fel Broc Môr, ac enw llai cyfarwydd ydi Alistair James o Lanfairfechan, ond mae’n sicr o ddod yn enw mawr yn y dyfodol agos. Mae llais hudolus Wil Tân eisoes yn gyfarwydd ar donfeddi radio, a bydd y dyn tân rhan amser o Fôn yn siwr o fynd a bryd llawer. Felly eisteddwch yn ôl, mwynhewch y wledd, a llond gwlad o gân.

Traciau -

01 - Goleuadau Sir Fôn (Broc Môr)

02 - Un llwybr (Broc Môr)

03 - Cwrdd â thi (Brenda Edwards)

04 - Y ddawns olaf (Brenda Edwards)

05 - Dwylo'n Nhad (Iona ac Andy)

06 - Llwybrau breuddwydion (Iona ac Andy)

07 - Ffyla (Iona ac Andy)

08 - Paradwys (Iona ac Andy)

09 - Neith digon ddim digoni (Alistair James)

10 - Mae geneth fach yng Nghymru (Wil Tân)

11 - Bugeilio'r gwenith gwyn (Wil Tân)

12 - Giatia Graceland (John ac Alun)

13 - Rwy'n cofio'r dydd (John ac Alun)

14 - Dos f'anwylyd (John ac Alun)

15 - Dy golli di (John ac Alun)

16 - Dyddiau difyr (John ac Alun)

17 - Chwarelwr (John ac Alun).

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886245720
SAIN SCD2457

You may also like .....Falle hoffech chi .....