Gai Toms, Baiaia!

"Baiaia! started out as an urge for more upbeat songs in my live repertoire, and developed from there onwards. I tried my best to avoid overcomplicatiions, and just let things happen. The best songs come to life when you don't think too much. Baiaia! grew organically... the seed of idea, the earth of creation, and the water and sunshine of devoted band members and studio personel. Of course, the size of the pot in which the plant grows is a metaphor for Welsh language music budgets these days! But hey, love thy labour... Baiaia!" Gai Toms

Baiaia! songs were written in the summer of 2022, and recorded at SAIN STUDIOS, Llandwrog, with the Gai Toms band over Easter 2023. Gai Toms as producer, and Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) as engineer and co-producer. As a native of Pen Llŷn he appears as bassist on that song. Time was short, but in hindsight it gave the album it's 'happy go lucky' vibe. After recording the rhythm section, Gai Toms recorded the vocals, synths and percussion at his own SBENSH STUDIOS, Tanygrisiau, before sending the components to the capable hands of Ifan Emlyn (Candelas) to mix.

Tracks -

01. Y Berllan

02. Agorydd

03. Melys Gybolfa

04. Mwg

05. Pen Llyn

06. Neidia

07. Chwedlau yn y fflachlwch

08. Hed, hed, hed

09. Gwlad yn ein pennau

10. Baiaia!

 



 

 

 

Ysgrifennwyd caneuon Baiaia! yn ystod haf 2022, gan fynd i STIWDIO SAIN, Llandwrog gyda'r band dros Pasg 2023 i recordio. Gai Toms yn cynhyrchu ac Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn peiriannu a chyd-gynhyrchu, ac fel brodor o Ben Llŷn mae'n ymddangos ar y bas ar y gân 'Pen Llŷn' (Trac-5). Roedd yr amserlen recordio yn eithaf tynn, ond wrth edrych yn ôl rhoddodd hynny ryw naws hwyliog i'r holl broses. Wedi recordio'r band, aeth Gai Toms a'r traciau cefndirol i STIWDIO SBENSH i recordio'r lleisiau, synths ac offerynau taro. Gyrrodd y traciau gorffenedig i STIWDIO SAIN yng ngofal dawnus Ifan Emlyn (Candelas) i gymysgu.

"Roeddwn isio mwy o ganeuon uwch-dempo i'r repertoire byw, felly dwi'n hapus iawn efo Baiaia! yng nghyd-destun hynny. ‘Rwyf yn gyfansoddwr profiadol bellach, ond weithia’ mae angen camu ‘nôl o'r gor-feddwl a symleiddio, ac wrth symleiddio mae gonestrwydd ac emosiwn yn treiddio'n rhwydd i'r caneuon. Ond, teimlaf mod i wedi gorfod mynd drwy'r felin i sylweddoli a gwerthfawrogi hynny. Tyfodd Baiaia! yn organig, mae caneuon fel planhigion, tydi? Hedyn y syniad, pridd y creu, wedyn dŵr a haul y band ymroddgar a phersonel stiwdio. Wrth gwrs, mae maint y potyn yn effeithio'r tyfiant, ac yn fetaffor i gyllidebau'r SRG dyddiau hyn... ond hei, llafur cariad - Baiaia!"

Traciau -

01. Y Berllan

02. Agorydd

03. Melys Gybolfa

04. Mwg

05. Pen Llyn

06. Neidia

07. Chwedlau yn y fflachlwch

08. Hed, hed, hed

09. Gwlad yn ein pennau

10. Baiaia!

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886285320
SAIN SCD2853

You may also like .....Falle hoffech chi .....