Cor Eifionydd, Meseia

An unique recording in Welsh of the Choruses and Arias from Handel’s masterpiece, The Messiah by one of Wales’ leading mixed choirs. Côr Eifionydd are the first choir to record Handel’s most popular work in Welsh, to the accompaniment of the North Wales Chamber Orchestra and leading soloists – Siân Eirian, Helen Medi, Ian Rees and Aled Edwards.

Tracks -

01 - Agorawd

02 - Llonnwch chwi fy mhobl

03 - Pob rhyw bantle a lwyr gyfodir

04 - A gogoniant yr Iôr

05 - Cans i nyni fe aned mab

06 - Yn sydyn iawn yr oedd gyda’r angel/Moliant i Dduw

07 - Mae’n ddirmygedig

08 - Diau, diau Ef a ddug ein gwae

09 - Trwy’i gleisiau Ef fe’n iachawyd

10 - Crwydrasom ni fel praidd ar led

11 - Haleliwiau

12 - Mi wn mai byw yw Ef, fy mhrynwr

13 - Gwrandewch, dirgelwch a ddwedaf i/Yr utgorn a gân

14 - Teilwng yw yr Oen gadd ei ladd

15 - Amen.

 

 

Recordiad arbennig o Gytganau ac Unawdau'r Meseia gan un o brif Gorau Cymysg Cymru, Cerddorfa Siambr ac Unawdwyr o fri cenedlaethol.

Bu Côr Eifionydd wrthi yn ystod Ionawr a Chwefror, 2001 yn paratoi ac ymarfer tuag at un o’u prosiectau mwyaf uchelgeisiol. Buont yn recordio’r Meseia gan Handel i gyfeiliant Cerddorfa Siambr. Mae’r CD’n wedi cael ei rhyddhau gan Gwmni Recordiau SAIN – y tro cyntaf erioed i’r Meseia gael ei recordio yn y Gymraeg, a hynny gyda cherddorfa. Cafwyd dau sesiwn caled o recordio yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon. I ddechrau, recordiwyd y côr o dan arweiniad medrus Pat Jones i gyfeiliant Cerddorfa Siambr Gogledd Cymru dan ofal Edward Davies. Mewn sesiwn arall fe recordiwyd yr unawdwyr sef Siân Eirian (soprano), Helen Medi (alto), Ian Rees (tenor) ac Aled Edwards (bas). Emyr Rhys ac Annette Bryn Parri fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r CD, ac roeddynt wedi eu plesio’n fawr gydag ansawdd a safon y SAIN yn ystod y sesiynau recordio.

Traciau -

01 - Agorawd

02 - Llonnwch chwi fy mhobl

03 - Pob rhyw bantle a lwyr gyfodir

04 - A gogoniant yr Iôr

05 - Cans i nyni fe aned mab

06 - Yn sydyn iawn yr oedd gyda’r angel/Moliant i Dduw

07 - Mae’n ddirmygedig

08 - Diau, diau Ef a ddug ein gwae

09 - Trwy’i gleisiau Ef fe’n iachawyd

10 - Crwydrasom ni fel praidd ar led

11 - Haleliwiau

12 - Mi wn mai byw yw Ef, fy mhrynwr

13 - Gwrandewch, dirgelwch a ddwedaf i/Yr utgorn a gân

14 - Teilwng yw yr Oen gadd ei ladd

15 - Amen.

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886224329
SAIN SCD2243

You may also like .....Falle hoffech chi .....