Caneuon Gwladgarol

For a nation such as Wales, during the centuries between the Act of Union of 1536 and the establishment of the Welsh Assembly in 1999, keeping alive its identity was to a great extent the realm of poets and songwriters. This unique compilation brings together a wide spectrum of songs and poems which express in one way or another the feelings of the Welsh people for their country. They include patriotic hymns and anthems, modern songs about heroes from Welsh history, songs which extol the virtues of the Welsh language and the people who speak it, and patriotic poems set to harp music in the cerdd dant tradition. And amongst the more traditional expressions are contemporary ones which take a more oblique view – such as Geraint Jarman’s tribute to Wales as the New Ethiopia, Twm Morys’ take on St. David’s advice to ‘take care of the little things’, and Mairi McInnes’ haunting song to the Spirit of the Gael, uniting Scottish and Welsh patriotism.

Tracks –

01. Dros Gymru'n Gwlad (Côr Penyberth a John Eifion)

02. Ymadawiad Arthur (Côr Pantycelyn)

03. Pethau Bychain Dewi Sant (Bob Delyn)

04. Y Dref Wen (Tecwyn Ifan)

05. Mynnwch y Ddaear yn Ôl (Trefor Edwards)

06. Buchedd Garmon (Canna)

07. Gwinllan a Roddwyd (Dafydd Iwan)

08. Caru Cymru (Côr Godre'r Aran)

09. O Gymru (Jane Evans a Diliau Dyfrdwy)

10. Safwn yn y Bwlch (Hogia'r Wyddfa)

11. Glyndwr (Heather Jones)

12. Cenedl (Côr Merched y Garth)

13. Eu Hiaith a Gadwant (Beti a Carys Puw)

14. Colli Iaith (Côr Seiriol)

15. Cân y Celt (Côr Telynnau Tywi)

16. Heriwn, Wynebwn y Wawr (Côr Godre’r Aran)

17. Ysbryd y Gael (Mairi MacInnes a Chôr Meibion Llangwm)

18. Ethiopia Newydd (Geraint Jarman)

19. Yr Anthem Geltaidd (Côr Maelgwn).

 

 

Bu peth holi yn ddiweddar pam fod yna lai o ganu gwleidyddol, yn enwedig o ganeuon gwladgarol, y dyddiau hyn nag a fu. Ond o gywain drwy archif Sain, nid dyna’r argraff a gawn. Mae traddodiad hir o ganu gwladgarol ym myd cerdd dant, gan fod barddoniaeth yn y cywair hwnnw yn benthyg ei hun yn barod i ganu gyda’r tannau, a cheir rhai enghreifftiau disglair yma. Ond hyd yn oed yn y byd ‘pop’, mae’r nodyn gwladgarol yn parhau i gael ei daro’n rheolaidd, a rhai o’n cantorion roc gorau ni wedi creu sawl campwaith o ganeuon am Gymru sydd yn fwy crafog na thraddodiad y beirdd mwy confensiynol.

Bydd chwaer gyfrol y casgliad hwn – sef casgliad o ganeuon ‘protest’ – yn cynnwys mwy o’r caneuon cyfoes hyn, ond fe’u cynrychiolir yma gan Geraint Jarman, Bob Delyn a Tecwyn Ifan. Mae Ethiopia Newydd Jarman yn ehangu cynfas y weledigaeth genedlaethol, a’r unigryw Pethau bychain Dewi Sant Twm Morys yn cyflwyno’r nodyn cellweirus hwnnw sydd ei angen ar bob mudiad gwerth chweil!

Mae pwyslais y rhan fwyaf o’r caneuon hyn – er yn amrywio llawer mewn arddull – ar enaid y genedl a’i diwylliant fel tae, ond trewir y nodyn herfeiddiol, hyderus yn aml hefyd, fel yng nghân ysgubol Meinir Lloyd Cân y Celt a chân Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan Heriwn, wynebwn y wawr. Yn naturiol, mae’r iaith Gymraeg yn ganolog, a cheir cyfunaid diddorol yma gyda dehongliad grymus Côr Seiriol o berl Merêd a Harri Webb Colli Iaith, a geiriau Eifion Wyn Eu hiaith a gadwant yn cael eu canu i’r tannau gan y chwiorydd Carys a Beti Puw. Mae dwy o’r caneuon yn seiliedig ar yr araith enwog o Buchedd Garmon, sef emyn Lewis Valentine yn nehongliad anfarwol John Eifion a Chôr Penyberth, gosodiad cerdd dant Côr Canna, a Gwinllan a Roddwyd Dafydd Iwan.

Ychydig yn llai adnabyddus yw geiriau heriol R.J. Derfel Mynnwch y ddaear yn ôl, geiriau a gafodd eu hadleisio rai degawdau yn ddiweddarach gan yr ymgyrchydd-gyfansoddwr Woody Guthrie yn ei This land is your land, this land is my land. O hudoliaeth hyfryd Ysbryd y Gael i’r anthemau cynhyrfus, ac o farddoniaeth atgofus Tecwyn Ifan i gynghanedd ysgytwol T. Gwynn Jones, mae amrywiaeth y casgliad hwn yn sicr o gydio ynoch, i ddathlu’r ffaith fod llawer o’r geiriau hyn bellach yn dechrau cael eu gwireddu yn y Gymru gyfoes.

Traciau -

01. Dros Gymru'n Gwlad (Côr Penyberth a John Eifion)

02. Ymadawiad Arthur (Côr Pantycelyn)

03. Pethau Bychain Dewi Sant (Bob Delyn)

04. Y Dref Wen (Tecwyn Ifan)

05. Mynnwch y Ddaear yn Ôl (Trefor Edwards)

06. Buchedd Garmon (Canna)

07. Gwinllan a Roddwyd (Dafydd Iwan)

08. Caru Cymru (Côr Godre'r Aran)

09. O Gymru (Jane Evans a Diliau Dyfrdwy)

10. Safwn yn y Bwlch (Hogia'r Wyddfa)

11. Glyndwr (Heather Jones)

12. Cenedl (Côr Merched y Garth)

13. Eu Hiaith a Gadwant (Beti a Carys Puw)

14. Colli Iaith (Côr Seiriol)

15. Cân y Celt (Côr Telynnau Tywi)

16. Heriwn, Wynebwn y Wawr (Côr Godre’r Aran)

17. Ysbryd y Gael (Mairi MacInnes a Chôr Meibion Llangwm)

18. Ethiopia Newydd (Geraint Jarman)

19. Yr Anthem Geltaidd (Côr Maelgwn).

£7.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5016886269924
SAIN SCD2699

You may also like .....Falle hoffech chi .....