ABC Byd Natur

Author: Luned Aaron.

A beautifully illustrated presentation of the Welsh Alphabet in colour for children from 1 year old by artist Luned Aaron. You and your children will be charmed by the handsome images in the book before you venture outside on your own ABC nature trail!

 

Awdur: Luned Aaron.

Ailargraffiad o gyfrol hardd, llawn lliw ac amrywiaeth sy'n cyflwyno'r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi'i chynllunio a'i darlunio gan yr artist Luned Aaron. Ewch ar daith natur ABC gyda'ch plentyn. Dechreuwch trwy edmygu delweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i'r ardd i weld beth allwch chithau ei ganfod. Fe gewch chi a'ch plant eich swyno!

 

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lyfrau o'r fath, mae'r holl ddelweddau collage gwreiddiol yn y gyfrol hon yn deillio o fyd natur, a hynny gan i Luned, sy'n fam i Eos ac Olwen, sylwi fod trafod byd natur yn ffordd effeithiol o gyflwyno llythrennau'r wyddor i blentyn.
Daw Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i dwy ferch fach. Mae'n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y gogledd.

£6.95 -



Code(s)Rhifnod: 9781845277277
9781845277277

You may also like .....Falle hoffech chi .....